Tuesday, April 11, 2006

 

mwy o lincs

Reit, gyrru hwn allan i bawb. Mae na lincs ar y chwith i bethau o ddiddordeb, ond yn bwysicach, mae na cwpwl o awgrymiadau am hotels yn San Sebastian ( neu Donostia, i roi ei enw iawn mewn Basgeg . . ). Dwi di aros yn y ddwy, a rhaid i mi gyfaddef fy mod i'n ffrindiau gyda'r boi sy'n rhedeg y Hotel Parma - mae'r lle yn handi os am fod yng nghanol yr hen dref ac yn weddol rhad. Dwi di aros hefyd yn yr Hotel Europa sydd dipyn bach fwy moethus ac yn agos iawn i La Concha, sef y prif draeth - ond yn bwysicach, mae hwn hefyd gyda lle i barcio car wrth ymyl.

Mae na fwy o wybodaeth yma am San Sebastian/Donostia am resymau amlwg lle dwi yn y cwestiwn, ond croeso i bobl rhoi unrhyw awgrymiadau i fyny 'ma . . . .

Comments: Post a Comment



<< Home

This page is powered by Blogger. Isn't yours?