Thursday, May 11, 2006

 

Di newid dyddiad eto !

Niwsans y peth, ond o leiaf tydi hyn ddim wedi ei newid i'r Dydd Mawrth - bai ar y Sbaenwyr. Fydd na awyrgylch dda beth bynnag - digon i'w wneud yn Bilbao . . .

Monday, May 08, 2006

 
Newyddion drwg i Lerpwl, ond dim yn rhy ddrwg i ni yn y gem yn Bilbao, gyda Alonso wedi anafu . . . .

Saturday, April 29, 2006

 

panic drosodd

Yn ol bob son, mae'r gem yn mynd ymlaen ar yr 20fed - diolch byth. Stwffio FA Sbaen - FIFA di dod allan hefo rhywbeth call, a'r Western Mail yn rhoi bob clod i Toshack . . . .mae''n ymddangos fod bob ticed wedi gwerthu hefyd.

Friday, April 28, 2006

 

Newid dyddiad y gem o bosib . . . .

Newydd glywed fod y gem o bosib yn mynd i cael ei ohirio oherwydd fod FA Sbaen isio chwarae gem hwyr Bilbao v Barcelona, sydd bach yn crap os mae pawb wedi bwcio i fod yno erbyn yr 20fed - mae'r FAW wedi dweud fod hyn yn mynd yn ol rheolau FIFA yn ol bob son. Wrth gwrs, tydi FA Sbaen ddim yn rhoi stuff am rhywbeth mae nhw'n gysidro'n warthus eniwe - sef y Basgwyr isio chwarae yn nhim eu hunain . . . .mwy o newyddion o Dragonsoccer.

Wednesday, April 19, 2006

 
Erthygl bach diddorol yn y Guardian heddiw yn son am y cad-oediad diweddaraf ac yn rhoi rhywfaint o'r cefndir gwleidyddol i beth sy'n digwydd ar y funud. Mae'n ymddangos fod pethau'n gwella, ond mae 'na dal lot o ffordd i fynd - tydi pobl dal ddim gyda llawer o ffydd yn y llywodraeth Madrid, er bod nhw'n well na'r lot oedd yna gynt.

Tuesday, April 11, 2006

 

mwy o lincs

Reit, gyrru hwn allan i bawb. Mae na lincs ar y chwith i bethau o ddiddordeb, ond yn bwysicach, mae na cwpwl o awgrymiadau am hotels yn San Sebastian ( neu Donostia, i roi ei enw iawn mewn Basgeg . . ). Dwi di aros yn y ddwy, a rhaid i mi gyfaddef fy mod i'n ffrindiau gyda'r boi sy'n rhedeg y Hotel Parma - mae'r lle yn handi os am fod yng nghanol yr hen dref ac yn weddol rhad. Dwi di aros hefyd yn yr Hotel Europa sydd dipyn bach fwy moethus ac yn agos iawn i La Concha, sef y prif draeth - ond yn bwysicach, mae hwn hefyd gyda lle i barcio car wrth ymyl.

Mae na fwy o wybodaeth yma am San Sebastian/Donostia am resymau amlwg lle dwi yn y cwestiwn, ond croeso i bobl rhoi unrhyw awgrymiadau i fyny 'ma . . . .

Wednesday, April 05, 2006

 
Lle i helpu pawb fydd yn mynd allan i weld y gem mis nesa yng Ngwlad y Basg - gobeithio llenwi hwn gyda lincs diddorol a defnyddiol, ateb cwestiynau a malu awyr yn gyffredinol am bopeth i wneud a Gwlad y Basg. 'Galestarrak gara' gyda llaw ydi'r basgeg am 'Cymry ydym ni/ da ni o Gymru' . . . .

This page is powered by Blogger. Isn't yours?